https://www.facebook.com/WhatsYourStoryShare/videos/565412237683100/
[Cymraeg isod]
Hello my name is Radha Nair-Roberts, and I’m the Chair of Exercise for All
It is an association we started in 2017 to campaign for better equality for people with a disability like myself. I am disabled and use a wheelchair because of progressive MS and I realised very quickly that there was plenty of stuff in life that was much harder if you had a physical disability and you had mobility problems including having to use a wheelchair.
That’s why we’ve created our latest project ‘What’s Your Story?’ We all know that this is a very difficult time with the Coronavirus Pandemic, and that people with a physical disability get affected more than many other people because of the need to self-isolate, and the lack of access to the communities that they are used to living in. This is why we have created this project in conjunction with Page to Stage Wales, and funded by the National Lottery Community Fund, to collect your experiences and your thoughts about living through this exceptional time.
We want to store all your memories, and your ideas, and all your thoughts for future generations, so that we will always remember what this was like. You can share your experiences of lockdown any way which is most suitable for yourself. You can record a vlog, a voice recording, or you could write some text, a poem, you can do anything that you like we just want to hear from you, so we can all connect at this difficult time. Thank you very much and we look forward to hearing from you very soon. Radha Nair-Roberts Chair Exercise For All
Helo. Fy enw yw Radha Nair-Roberts. A dwi’n Gadeirydd ar Ymarfer i Bawb - Exercise for All.
Wnaethon ni gychwyn y sefydliad cymundeol hwn dair blynedd yn ôl, er mwyn ymgyrchu am well cydraddoldeb i bobl efo anableddau. Pobl fel fi. Dwi’n anabl ac yn gorfod defnyddio cadair olwyn oherwydd MS ymledol.
‘Nes i sylweddoli yn fuan iawn bod ‘na ddigon o bethau mewn bywyd sy’n llawer c’letach gydag anabledd corfforol, gyda phroblemau cerdded ac yn llwyr ddibynnol ar gadair olwyn. Dyna pam ni wedi creu ein prosiect diweddara, Beth yw dy stori di? Ni gyd yn gwybod cyfnod mor anodd yw hi ar hyn o bryd oherwydd y Pandemig Coronafeirws. A ni’n ymwybodol iawn hefyd bod y rhai sydd efo anabledd corfforol yn cael eu heffeithio llawer mwy nag eraill - achos yr angen i hunan ynysu; a hefyd, wrth gwrs, yn methu mynd i’r cymunedau hynny sy’n arferol i ni. Dyna’r rheswm i ni greu’r prosiect hwn ar y cyd efo cwmni creadigol, Page to Stage Cymru, gyda chymorth y Loteri Genedlaethol: - i gasglu eich profiadau chi - a’ch sylwadau chi - o fyw trwy’r amser eithriadol yma. Ni eisiau casglu a chreu storfa eich holl atgofion chi • o’ch syniadau chi, • eich holl feddyliau • a’ch atgofion chi ar gyfer cenedlaethau i ddod. Fel bod pawb yn cofio yn union fel oedd hi. • Gallwch rannu eich profiadau chi o’r cyfnod hir dan gyfyngiadau mewn unrhyw ffordd sy’n addas i chi. • Gallwch greu fideo fel flog, neu recordiad sain yn unig; • neu gallwch sgwennu unrhywbeth - yn ddyddiadur, yn ryddiaith neu farddoniaeth. • Gallwch dddefnyddio unrhyw beth sy’n siwtio chi. • Ni jyst eisiau cysylltu a chlywed gennych yn yr amser anodd yma. Diolch o galon ac edrychwn ymlaen i glywed gennych chi. Cofiwch sôn am y prosiect gyda’ch ffrindiau hefyd.
Comments